Castell Harlech
Math | castell, safle archaeolegol |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Parc Cenedlaethol Eryri |
Rhan o'r canlynol | Cestyll a Muriau Trefi'r Brenin Edward yng Ngwynedd |
Lleoliad | Harlech |
Sir | Harlech |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 6 ha, 1.7 ha |
Uwch y môr | 57 metr |
Cyfesurynnau | 52.860004°N 4.109164°W |
Rheolir gan | Cadw |
Perchnogaeth | Edward I, brenin Lloegr |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, rhan o Safle Treftadaeth y Byd, heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Sefydlwydwyd gan | Edward I, brenin Lloegr |
Manylion | |
Deunydd | tywodfaen |
Dynodwr Cadw | ME044 |
Adnoddau Dysgu | |
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma | |
---|---|
Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg |
Castell canoloesol rhestredig gradd 1 yn Harlech, Gwynedd yw Castell Harlech. Fe’i hadeiladwyd gan Edward I yn ystod ei oresgyniad o Gymru rhwng 1282 a 1289 ar gost gymharol gymedrol o £8,190.[1] Mae'n un o’r pedwar castell consentrig, sef Caernarfon, Biwmares a Chonwy a adeiladwyd yn dilyn lladd Llywelyn ap Gruffydd yn 1282. Cryfder cestyll consentrig oedd y ddau fur, sef y mur allanol a'r mur mewnol. Roedd hwn yn gynllun a fabwysiadwyd yn Ewrop wedi iddo gael ei weld yn y Dwyrain Canol adeg y Croesgadau.
Chwaraeodd y castell ran bwysig yn hanes Cymru yn y canrifoedd dilynol. Yn 1294 gosododd gwrthryfelwyr Madog ap Llywelyn Gastell Harlech dan warchae. Fodd bynnag, derbyniodd y Saeson gyflenwadau o Iwerddon diolch i fynedfa i'r môr yn y castell, a diddymwyd y gwrthryfel. Yn ystod Gwrthryfel Owain Glyndŵr roedd y castell wedi syrthio i ddwylo Glyn Dŵr a daeth yn gartref ac yn bencadlys milwrol iddo am bedair blynedd. Yn 1408 gosododd lluoedd Seisnig, o dan awdurdod y gŵr a gafodd ei goroni yn Harri V yn ddiweddarach, warchae ar y castell. Syrthiodd Harlech yn y pen draw ym mis Chwefror 1409. Roedd y castell hefyd yn ased milwrol pwysig yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau a'r Rhyfel Cartref.
Mae'r castell heddiw yng ngofal Cadw. Fe'i cynhwyswyd ar restr Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO yn 1986, fel rhan o safle Cestyll a Muriau Trefi'r Brenin Edward yng Ngwynedd.[2]
Hanes
[edit | edit source]Ym Mhedair Cainc y Mabinogi Castell Harlech yw castell Bendigeidfran a'i chwaer Branwen ferch Llŷr, y dduwies y ceir ei hanes yn Ail Gainc y Mabinogi, ond nid oes tystiolaeth archeolegol bod amddiffynfa Gymreig wedi ei hadeiladu ar y safle cyn y castell presennol.[3]
Roedd brenhinoedd Lloegr a thywysogion Cymru wedi ymgiprys am reolaeth dros ogledd Cymru ers y 1070au. Ailgychwynnodd y gwrthdaro yn ystod y 13g, gan arwain Edward I i ymyrryd yng ngogledd Cymru yn 1282 am yr ail waith yn ystod ei deyrnasiad. Aeth Edward I ati i adeiladu ac adnewyddu cyfres o gestyll cadarn fel cadarnleoedd grym a diogelwch. Roedd castell Harlech yn un o saith castell a adeiladwyd ar draws gogledd Cymru fel rhan o’i ‘gylch haearn’ o gestyll. Roedd y rhain yn ganolfannau ar gyfer ei fyddinoedd lle gallai lansio ymosodiadau yn erbyn y Cymry.
Gwarchaeau
[edit | edit source]Yn 1294, dechreuodd Madog ap Llywelyn wrthryfel yn erbyn y Saeson a ymledodd yn gyflym ar draws Cymru. Gosododd y gwrthryfelwyr Gastell Harlech dan warchae y gaeaf hwnnw. O Iwerddon anfonwyd cyflenwadau ffres dros y môr, a chawsant eu cludo drwy lifddorau Harlech gan ddod â’r gwrthryfel i ben.
Yn ystod Gwrthryfel Owain Glyn Dŵr, erbyn 1403, dim ond llond llaw o gestyll, gan gynnwys Harlech, a lwyddodd i ddal eu tir yn erbyn y gwrthryfelwyr. Doedd dim digon o offer na staff yn y castell i wrthsefyll gwarchae ac mae’r cofnodion yn dangos mai dim ond tair tarian, wyth helmed, chwe gwaywffon, deg pâr o fenig, a phedwar gwn oedd gan y garsiwn. Ar ddiwedd 1404, roedd y castell wedi syrthio i ddwylo Glyn Dŵr a daeth yn gartref ac yn bencadlys milwrol iddo am bedair blynedd. Yn 1408 gosododd lluoedd Seisnig, o dan awdurdod y gŵr a gafodd ei goroni yn Harri V yn ddiweddarach, a’i gadlywydd, Edmund Mortimer, warchae ar y castell. Gwnaed difrod mawr i rannau deheuol a dwyreiniol y waliau allanol gan fagnelau a chanonau. Ar ôl methu â chipio’r castell, cafodd John Talbot ei adael gan Harri i fod yn gyfrifol am y gwarchae ac aeth Harri yn ei flaen i Gastell Aberystwyth. Ar ôl i Mortimer a llawer o’i ddynion farw o flinder, syrthiodd Harlech yn y pen draw ym mis Chwefror 1409.
Yn y 15g, roedd Harlech yn gysylltiedig â chyfres o ryfeloedd cartref, a elwir yn Rhyfeloedd y Rhosynnau, rhwng carfanau gelyniaethus teulu Lancaster a theulu Iorc. Yn 1460, yn dilyn brwydr Northampton, fe wnaeth y Frenhines Marged o Anjou a’i baban, y Tywysog Edward, ffoi i’r castell. Rhwng 1461 ac 1468 roedd yn nwylo cefnogwyr teulu Lancaster, o dan awdurdod Dafydd ap Ieuan. Oherwydd ei amddiffynfeydd naturiol a’r llwybr cyflenwi ar y môr, daliodd castell Harlech ei dir unwaith eto ac, wrth i gestyll eraill syrthio, hwn oedd yr olaf o’r prif gadarnleoedd a oedd yn dal i fod o dan reolaeth teulu Lancaster. Mae'r gân Rhyfelgyrch Gwŷr Harlech yn cyfeirio at warchae'r adeg honno.
Daeth y castell yn ganolfan ar gyfer eu hymgyrchoedd ar draws y rhanbarth. Ymosododd Syr Richard Tunstall o Gastell Harlech yn 1466 a glaniodd Siaspar Tudur, ewythr Harri Tudur, yno gyda milwyr ychwanegol o Ffrainc yn 1468. Yn sgil dyfodiad Siaspar Tudur gorchmynnodd Edward IV William Herbert i drefnu byddin, o bosibl hyd at 10,000 o ddynion, er mwyn cipio’r castell unwaith ac am byth. Ar ôl mis, ildiodd y garsiwn ar 14 Awst.
Y Rhyfel Cartref
[edit | edit source]Ar ôl dechrau Rhyfel Cartref Lloegr yn 1642, cipiwyd y castell gan luoedd a oedd yn deyrngar i Siarl I. Nid oedd y castell wedi cael ei drwsio yn dilyn gwarchae 1468 ac roedd wedi mynd â’i ben iddo, ac eithrio’r porthdy, a oedd yn cael ei ddefnyddio fel y llys lleol. Yn 1644 penododd Rupert, tywysog y Rhein, y Cyrnol William Owen yn gwnstabl y castell, a rhoddwyd y dasg o drwsio’r gaer i’r Cyrnol Owen. Bu gwarchae hir rhwng mis Mehefin 1646 a mis Mawrth 1647 pan ildiodd y garsiwn o 44 dyn i’r Cadfridog Thomas Mytton. Y castell oedd y gaer frenhinol olaf ar y tir i ildio, gan nodi diwedd cam cyntaf y rhyfel.
Doedd dim angen y castell bellach i sicrhau diogelwch gogledd Cymru ac, i atal y Brenhinwyr rhag ei ddefnyddio eto, gorchmynnodd y Seneddwyr y dylid ei ddinistrio. Ond dim ond yn rhannol y dilynwyd y gorchmynion hyn. Dinistriwyd grisiau’r porthdy a difrodwyd y castell i’r fath raddau fel na ellid ei ddefnyddio, ond ni chafodd ei ddinistrio’n llwyr.
Cafodd cerrig y castell eu defnyddio i godi tai yn y dref.[4]
Dyluniad
[edit | edit source]Meistr James o St George yn rhanbarth Safwy (Savoy) oedd yng ngofal y gwaith cynllunio ac adeiladu. Roedd y castell bron â’i gwblhau erbyn diwedd 1289 am tua £8,190, sef tua 10% o’r £80,000 a wariodd Edward ar adeiladu
cestyll yng Nghymru. Adeiladwyd y castell o garreg leol ac roedd o gynllun consentrig, gan gynnwys porthdy enfawr a oedd unwaith yn llety uchel ei statws i gwnstabl y castell ac ymwelwyr pwysig. Ar y pryd roedd y môr yn cyrraedd yn nes o lawer at Harlech ac roedd llifddor â grisiau hir yn arwain i lawr o’r castell at y lan, gan olygu bod modd dod â chyflenwadau i’r castell o’r môr yn ystod gwarchae.
Yn wynebu’r môr, roedd murfylchau Harlech yn ymestyn o wyneb y graig serth. Byddai unrhyw ymosodwr o’r tir yn gyntaf yn gorfod wynebu’r porthdy enfawr gyda dau dŵr. Mae’r môr, fel mynyddoedd Eryri, yn allweddol i leoliad Harlech. Mae waliau mewnol a thyrrau enfawr y gaer yn dal i sefyll i’w huchder llawn. Ar ôl Gwrthryfel Madog ap Llywelyn rhwng 1294 a 95, adeiladwyd amddiffynfeydd ychwanegol o amgylch y llwybr i lawr at y môr. Gwnaed mwy o waith rhwng 1323 a 24, ar ôl rhyfel Despenser, pan gafodd Edward II ei fygwth yn y rhanbarth gan ddau o arglwyddi’r gororau, Roger a Humphrey de Bohun. Gorchmynnodd ei siryf, Syr Gruffydd Llwyd, i ymestyn yr amddiffynfeydd a oedd yn arwain at y porthdy a chodi tyrau ychwanegol.
Oriel Gelf
[edit | edit source]-
Gan John Speed, 1610
-
Gan Paul Sandby, 1795
-
Gan Edward Dayes, 1803
-
Gan Hugh Hughes, 1846
-
Gan William Henry Mander, tua 1890
-
Gan John Kelt Edwards, 1912
Cyfeiriadau
[edit | edit source]- ↑ "Castell Harlech | Cadw". cadw.llyw.cymru. Cyrchwyd 2020-04-28.
- ↑ "Castles and Town Walls of King Edward in Gwynedd". UNESCO World Heritage Centre. UNESCO. Cyrchwyd 31 Mai 2019.
- ↑ Taylor, A. J. (Arnold Joseph), 1911-2002. (2007). Harlech castle. Cadw (Organization : Great Britain) (arg. 4th ed). Cardiff: CADW. ISBN 978-1-85760-257-9. OCLC 573129003.CS1 maint: multiple names: authors list (link) CS1 maint: extra text (link)
- ↑ "Datblygiad Rhyfela, tua 1250 hyd heddiw" (PDF). CBAC. Cyrchwyd 28 Ebrill 2020.